Rydym yn chwilio am swyddog cyfrifon cysylltiadau cyhoeddus sy’n siarad Cymraeg

Os ydych chi’n swyddog cyfrifon cysylltiadau cyhoeddus talentog neu’n fyfyriwr gradd sy’n chwilio am y cam nesaf, efallai mai dyma’r ateb i chi.

Rydyn ni’n ddigon mawr i gynnig portffolio gwych o gleientiaid i chi a chyfle i gyfrannu at ymgyrchoedd marchnata integredig yn ogystal â phrosiectau PR penodol; ac yn ddigon bach i chi allu gwneud gwahaniaeth fel rhan o dîm dawnus, cefnogol, sy’n cael dipyn o hwyl wrth weithio’n galed.

Felly, os ydych chi’n arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus sy’n dda am weithio mewn tîm, sy’n deall rhywfaint am gyfathrebu integredig gyda’r ddawn o ofalu am gleientiaid a’u prosiectau, rydyn ni’n cynnig cyflog cystadleuol, swyddfa canol y ddinas a phrofiad i feithrin eich gyrfa.

E-bostiwch neges gyda’ch CV at Katie kdowling@golleyslater.co.uk ac Hannah hdixon@golleyslater.co.uk – a gadewch y cyfan i ni.

31 Gorffennaf yw’r dyddiad cau.